Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/601

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu yn hen gapel yr Annibynwyr yn Nolgellau ar y cof. Nid ydoedd yn cofio ei destun, ond yr oedd darluniad y pregethwr athrylithgar o bobl yn achwyn ar eu cof yn fyw yn ei feddwl.

Efe a ddywedai, yr wyf yn cofio fy mod i yn galw un tro gyda hen wr a hen wraig, ac fod yr hen wr yn achwyn ar ei gof yn fawr, dywedai nad oedd yn cofio dim bron, "wyt ti ddim yn cofio Sion," meddai yr hen wraig, "yr amser y torodd torchres yr hen gaseg wen ar y rhiw yn y fan a'r fan, pan yr oeddit ti yn dyfod adref gyda'r llwyth mawn, ac y bu yn agos i ti gael dy anafu?" "Cofio, ydwyf, Sian, fel pe y buase fo wedi dygwydd ddoe.". Felly y mae y rhai sydd yn achwyn ar eu cof mewn cysylltiad â phethau crefyddol yn cofio pethau eraill yn burion. Mae cof y rhai nad ydynt yn talu sylw i bethau da yn debyg iawn i boced bachgen. "Dos i dy wely Will," meddai mam wrth ei bachgen, ac y mae yntau yn ufuddhau. Wedi iddo fyned, mae y fam wrth roddi ei ddillad ef o'r neilldu yn taro ei llaw yn erbyn ei boced, yr hon sydd yn llawn o ryw bethau dyddorol a gwerthfawr gan y bachgen. Mae yn ei theimlo, ac yn gofyn iddi ei hun, yn enw yr anwyl, beth sydd gan yr hogyn yma yn ei boced? Yna y mae hi yn rhoddi ei llaw i mewn, ac yn dechreu tynu y cynwysiad allan, ac yn cael yno ddarnau o bapyr, hoelion, botymau, marbles, a llinyn, bid a fyno. Ond er fod y boced yn llawn, nid oedd y cwbl