Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/602

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond pethau diwerth. Felly mae cof dynion yn naturiol yn llawn o bethau diwerth, fel y mae yn anmhosibl iddynt allu cofio pethau da. Dangosai y pwysigrwydd o gadw pethau diwerth o'r cof, ac ymdrechu trysori ynddo bethau sylweddol a da; a dywedai yr hen wr fod ei naturioldeb yn tynu ei sylw mewn modd neillduol.

DYSGU MORWYN Y DAFARN I WEDDIO.

Er fod dros haner can' mlynedd wedi myned heibio er pan aeth y dyn mawr hwn i dangnefedd yr orphwysfa nefol gan ddweyd, "Tangnefedd, tangnefedd." Mae ei ddylanwad yn aros eto, ac y mae rhai o'r sawl gawsant y fraint o'i weled a'i wrandaw yn pregethu yn aros hyd y dydd hwn. Mae gwrandaw ar y cyfryw yn adrodd eu hadgofion am dano yn un o'r pethau mwyaf dyddorol i mi. Teithiodd drwy Dde a Gogledd Cymru, a buasai yn resyn i'r fath weinidogaeth gael ei chyfyngu i gylch yr eglwysi dan ei ofal. Ond clywais un o hen aelodau y Wern yn dweyd na fyddent yn cael bob Sabbath y byddai gartref bregethau cyffelyb i rai y Cyfarfodydd mawr a'r Cymanfaoedd. Pregethai am Sabbathau yn olynol heb fod dim anarferol yn y pregethau, er y byddai bob amser yn dda.

Ond o'r diwedd, byddai "gwn mawr" o bregeth yn cael ei danio nes synu a swyno pawb, ac edrychid ar hyn fel arwydd bob amser ei fod ar gychwyn i daith. Yna äi drwy y wlad am wythnosau gan wneud bylchau yn rhengoedd y gelyn