Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/603

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r gwn mawr" newydd. Derbynid ef yn mhob man lle yr elai fel angel Duw, a mawrheid y fraint gan deuluoedd o gael ei letya yn adeg ei ymweliadau â threfi ac ardaloedd. Pan an yr ymwelai âg un dref, yn Ngogledd Cymru, arferai letya mewn tafarndy yn nghwr y dref, i'r hwn y perthynai ychydig dir, a'r hwn oedd felly yn gyfuniad o dafarndy ac amaethdy. Yr oedd yn gwasanaethu yno eneth ieuanc ddymunol a charedig, yr hon a wnai bob peth yn ei gallu i wneud Mr. Williams yn ddedwydd yn ystod tymhor ei arosiad yn y lle. Heb fod yn nepell oddiwrth y ty yr oedd planigfa o goed, lle yr oedd ffynnon ddwfr, o'r hon y cyrchid dwfr at wasanaeth y ty. Un nos Sabbath dyma gyhoeddiad Mr. Williams i bregethu ar noswaith benodedig, a mawr oedd y dysgwyl am yr oedfa. Daeth Mr. Williams yno o rywle brydnawn diwrnod yr oedfa, ac aeth fel arfer i'r hen lety, lle y derbyniwyd ef yn siriol a llawen. Ar ol te aeth i'r blanigfa wrtho ei hun i fyfyrio ei bregeth, lle y cerddai yn araf ol a blaen, ac ymddangosai fel un yn teimlo pwysigrwydd y genadwri yr oedd ganddo i'w chyhoeddi dros ei Feistr Dwyfol. Tra yr oedd yno fel hyn yn myfyrio, a'r tan yn enyn, oedd i dori allan fel ffrwydriad mynydd tanllyd cyn pen ychydig amser yn yr oedfa, daeth y forwyn gyda'i dwfr-lestr at y ffynnon i gyrchu dwfr. Plygodd ar ei gliniau ar gareg o flaen y ffynnon, a llanwai y dwfr-lestr gydag un llai,