Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/605

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buasem yn ei chadw, buasem yn sicr o golli ein cwsmeriaid i gyd." Yr oedd dweyd y weddi fer pan ar ei gliniau ar y gareg oer yn codi dwfr, wedi ei gwneud yn genad dros Grist mor selog a'r wraig o Samaria gynt. Nis gallasai Mr. Williams beidio llawenychu yn fawr wrth glywed hyn, a galwodd yn y ty lle yr oedd yr eneth ieuanc selog hon yn gwasanaethu, i ddatgan ei lawenydd ei bod wedi gwneud ei ddymuniad, ac i roddi yr haner sofren iddi yn ol ei addewid. Buasai hanes ei ymweliad â hi yn sicr o fod yn ddyddorol iawn, ond nid oes genyf gymaint a gair ar hyn i'w ddweyd, a rhaid i'r darllenydd geisio dychmygu cyfarfyddiad dedwydd gwr Duw â'r forwyn grefyddol oedd wedi gorfod gadael ei h en feistres oblegid ei ffyddlondeb i Grist. Wele yr hanes mor gywir ag y medrai hen chwaer dduwiol o'r Wern ei adrodd ychydig flynyddau yn ol.