Gwirwyd y dudalen hon
PENNOD XXIII,
ANRHYDEDDU EI GOFFADWRIAETH.
Y CYNWYSIAD.—GOSOD COF-FAEN YN NGHAPEL Y WERN—RHODDI COFGOLOFN AR EI FEDD—DIWEDDGLO.
EIMLAI y frawdoliaeth yn y Wern, ac yn arbenig y Parch. J. Thomas, gweinidog
yr eglwys ar y pryd, y dylesid mewn
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7f/Cofiant_Darluniadol_Y_Parch_William_Williams_o%27r_Wern_%28page_606_crop%29.jpg/600px-Cofiant_Darluniadol_Y_Parch_William_Williams_o%27r_Wern_%28page_606_crop%29.jpg)
rhyw ffordd anrhydeddu coffadwriaeth Mr. Williams, ac yn mis Mai, 1865, gosodwyd cof-faen hardd o fynor gwyn uwchben y pulpud yn nghapel y Wern, ac y mae yr uchod yn ddarlun cywir o hono,