Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/607

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cafwyd digon o arian i ddwyn y gwaith i orpheniad oddiwrth gynyrch darlith o eiddo y Parch. J. Thomas, ar "Hanes yr achos Annibynol yn y Wern," ac y mae clod yn ddyledus iddo ef yn neillduol am ymgymeryd â dwyn hyn oddiamgylch Ond er gosod y Dablet Goffadwriaethol oddifewn i'r capel, ac er fod yr addoldai heirdd a lluosog sydd gan yr enwad yn y cylch yn gof-golofnau i lafur Mr. Williams, eto, teimlid y dylesid bod ar ei fedd hefyd gof-golofn a welid gan bawb a elai heibio. Soniwyd llawer am gael hyny, a diweddai y cwbl yn unig mewn son, ac oedid y gwaith. Ond ar ol llawer o ddyddiau, dygwyd yr amcan clodfawr i ben, a chafwyd Cof-golofn deilwng, ac arni yr argraff syml:—

ERECTED

IN MEMORY OF WILLIAM WILLIAMS

OF WERN;

Who died March 17th, 1840; Aged 59 Years.

Ceir cofnodiad ar y tri wyneb arall i'r Gof-golofn am ei briod, ei ferch, a'i fab, fel y canlyn:—

ALSO REBECCA, Wife of said

WILLIAM WILLIAMS;

Who died March 3rd, 1836;

Aged 53 Years.