Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

emyn i'w ganu, ac efallai mai Sarah Morris, gwraig y ty, oedd yn arwain y gân, oblegid yr ydoedd hi yn gantores nodedig o fedrus a soniarus. Wedi darllen a gweddio, cymerodd y llefarwr y geiriau canlynol yn destun:—"Trowch i'r ymddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddyw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddau ddyblyg." Cafwyd pregeth gyffrous iawn, ac ar ddiwedd yr oedfa rhoddwyd yr emyn canlynol i'w ganu:—

"Mae plant y byd yn dweyd ar g'oedd,
Mae meddw wyf, neu maes o nghof;
Os meddw wyf, nid rhyfedd
yw Meddw ar win o seler Duw."

Bu yno ganu gwresog â'r ysbryd, faint bynag oedd y gynulleidfa yn ei ddeall. Dyna, ddarllenydd, y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd y bregeth bwysig hono yn Bedd—y—Coedwr. Medda y testun bwysigrwydd dwyfol, ond ni theilynga yr emyn unrhyw sylw, ond yn unig gellir dywedyd, ei fod yn enghraifft o lawer un a genid y pryd hwnw, i aros i chwaeth y cynulleidfa— oedd ymgoethi, ac iddynt arferu â rhai gwell yn eu lle hwynt. Eto, wrth gysylltu yr emyn uchod â'r achlysur o argyhoeddiad un a ddaeth wedi hyny yn un o'r pregethwyr penaf a gododd Duw erioed yn ein gwlad, nis gall lai na meddu swyn a dyddordeb yn nglyn â'r amgylchiad nodedig hwnw.

Wedi i'r oedfa fyned drosodd, ymwasgarodd y gynulleidfa bob un i'w fan, ac aeth William