Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cwmeisian Ganol, yntau tuag adref y noson hono, heb derfysgu yr addoliad, ond wedi cael ei derfysgu yn ei enaid, gan anogaethau y pregethwr i'r fath raddau, fel na chafodd lonyddwch nes rhoddi ei hun i'r Arglwydd. Wrth ganfod mor ychydig ydyw nifer y tai sydd oddeutu Bedd-y- Coedwr, a'i fod yntau mewn lle mor anghysbell, nid yw yn hawdd dyfalu yn gywir beth a achosodd i Rhys Dafis fyned i bregethu i'r fath le neillduedig, yn enwedig wrth ystyried fod capel Penystryd erbyn hyn, wedi ei adeiladu. Dichon fod yno rywun yn glaf, neu yn oedranus ar y pryd, fel nas gallasai fyned i'r addoldy a nodwyd, a rhaid cofio hefyd fod yn y Cwm, lawer mwy o dai yn cael eu preswylio ar y pryd hwnw, nag sydd yno yn awr. Heblaw hyny, arferid pregethu llawer mewn aneddau yn y dyddiau hyny. Gwneir niwed annhraethol gan dirfeddianwyr mewn llawer ardal, drwy eu gwaith yn symud hen derfynau, ac yn chwalu hen gartrefi, gan wneuthur mân ffermydd yn barciau mawrion, i fod yn sathrfa i ewigod y maes, yn lle bod yn drigfaoedd dedwydd, ac yn aneddau llonydd i deuluoedd lawer i fyw yn gysurus ynddynt, ac i gyfoethogi y wlad yn mhob rhyw fodd. Pa bryd y daw cyfoethogion y wlad yn synwyrol, ac y cymer meddianwyr y ddaear ddysg yn y peth hwn, drwy gydnabod hawl pob dyn i gael lle i fyw ar ddaear Duw, yr hon a roddes efe i feibion dynion i'r amcan hwnw.