Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beth bynag am hyny, ceir digon o brofion fod Rhys Dafis wedi bod yn Bedd-y-Coedwr; a chafodd y gwr a'r wraig ieuanc a drigent yno, y fraint o agor eu drws i'r pregethwr cyffredin, ond a ddefnyddiwyd yn offeryn yn llaw Duw y waith hono i wneuthur gwaith anghyffredin yn nychweliad y llanc o Gwmeisian Ganol at yr Arglwydd. Nid oedd ein harwr ond tair ar ddeg oed pan y teimlodd efe y gwirionedd yn ymaflyd yn ei gydwybod, ac felly cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1794.

Pa bryd y daeth Rhys Dafis i ddeall mai saeth oddiar fwa ei weinidogaeth ef yn Bedd-y-Coedwr a lynodd yn nghalon y llanc, sydd gwestiwn nas gallwn yn awr ond dyfalu yn ei gylch. Ond pa bryd bynag y mynegwyd y ffaith ddyddorol iddo, nis gallasai lai na bod yn llawenydd i'w galon, yn enwedig wrth edrych ar ffrwyth yr oedfa hono yn ngoleuni bywyd tra defnyddiol y gwr enwog y ceisiwn yma arlenu ei hanes. Nid anghydweddol âg amcan, ac â nodwedd y gwaith hwn, yw rhoddi yma ychydig fanylion am fywyd a symuniadau Rhys Dafis. Mab ydoedd efe i Dafydd Thomas Dafis ac Elizabeth ei wraig, o Ben-y-banc, plwyf Bettws Evan, swydd Aberteifi. Nid oedd Pen-y-banc, lle y ganwyd ef, ond anedd-dy bychan hollol wledig yr olwg arno, yr hwn a safai tua haner milldir i'r ddeheu o bentref a Chapel Glynarthen. Erbyn hyn, nid yw hyd yn nod ei