Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adfeilion yn weledig, ond ceir amryw yn yr ardal yn cofio yr hen adeilad yn dda. Er pob ymchwiliad o'r eiddom, methasom a dyfod o hyd i gofnodiad o fedyddiad Rhys Dafis. Bernir yn lled sicr iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1772. Ond dywedir mewn amryw gofnodion mai yn y flwyddyn 1777 y ganwyd ef. Os yw hyny yn gywir nid oedd efe ond pedair blwydd yn hyn na Mr. Williams, ac nid oedd ond 17eg oed pan yn pregethu yn Bedd-y-Coedwr. Ond nid yw yn ymddangos yn beth tebyg y buasai bachgen o'r oedran hwnw, a hyny yn yr oes hono, wedi dechreu pregethu mor ieuanc, a myned am yspaid at y Parch. J. Griffiths, Glan-dwr, i fyned drwy gwrs o addysg yno, ac wedi hyny ddyfod i'r Gogledd, a phregethu yn yr anedd a nodwyd, tra nad oedd efe eto ond 17eg oed. Ond wrth gymeryd 1772 fel amseriad cywir ei enedigaeth, fel y ceir ef yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyfrol III., tudalen 418, yr oedd efe yn 22ain oed ar y pryd, ac ymddengys hyn yn fwy cyson â holl amgylchiadau ei hanes. Nid oes genym sicrwydd yn mha le y dechreuodd efe bregethu; tueddir ni i gredu mai yn Glynarthen y bu hyny. Daeth i'r Gogledd yn ieuanc, a bu yn lledu ei babell mewn amrai leoedd. Bu yn cadw ysgol yn Garthbeibio, Swydd Drefaldwyn; Nant-glyn, Swydd Dinbych; Pennal a Llanuwchllyn yn Swydd Feirionydd; ac efallai mewn lleoedd eraill hefyd. Tybiwn yn sicr mai yn Llanuwchllyn yr