Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd efe yn pabellu, pan y bu yn pregethu yn Bedd-y-Coedwr. Gwyddom ddarfod iddo fod yno yn cynorthwyo Dr. George Lewis yn nygiad gwaith yr ysgol yn mlaen, pan yr oedd y Parchedig ddoethawr yn parotoi at gwblhau y llyfr rhagorol hwnw ar dduwinyddiaeth, yr hwn a adwaenir wrth yr enw Drych Ysgrythyrol, neu Gorff o Dduwinyddiaeth. Daeth y llyfr gwerthfawr a nodwyd allan o'r wasg yn y flwyddyn 1796; ac nid yw yn annaturiol i ni dybio fod Rhys Dafis yn llafurio yn Llanuwchllyn er's dwy flynedd cyn hyny. Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyfrol III., tudalen 418, mai yn Mhenarth, Swydd Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1796, y cafodd Rhys Dafis y ddamwain i'w droed, a hyny mewn adeg o ddiwygiad grymus a nerthol iawn, drwy i ddyn mawr cryf o'r enw John Rogers, wrth orfoleddu a neidio sathru ar ei droed, ac o ddiffyg gofal prydlon, chwyddodd yr enyniad fyny i'w goes. Y mae y mynegiad uchod yn ddigon eglur a phendant ynddo ei hun, fel nad oes un achos i'w amheu o gwbl. Yr ydym hefyd, yn deall, drwy y Parch. O. L. Roberts, Pwllheli, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yn Mhenarth, fod argraff ar feddyliau llawer o'r hen drigolion, mai yno y cymerodd yr amgylchiad poenus le. Ond dywedir i ni yn y llyfr a elwir Yr Hen Bererinion, yr hwn a gyhoeddwyd gan Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf) Liverpool, mai yn Nghymanfa Cilcenin y derbyniodd efe niwed i'w droed, a hyny drwy iddo