Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef ei hun, wrth orfoleddu a neidio, ei daro yn erbyn bar haiarn oedd wedi ei roddi i gryfhau y wagen, yn yr hon y safai efe ac eraill. Cynaliwyd y Gymanfa hono yn Cilcenin, ar y dyddiau Mehefin 4ydd a'r 5ed 1806. Y mae gan Miss Hannah Davies, merch Rhys Dafis, gof clir iawn ddarfod iddi glywed ei mam yn dywedyd mai yn Nghymanfa Cilcenin yr anafwyd troed ei thad. Tybiwn fod yn anhawdd heddyw, ar ol cymaint o amser, gael dim sydd yn sicrach ar y mater na'r dystiolaeth uchod o eiddo ei ferch. Bu raid i'r meddygon gyflawni y gwaith poenus o gymeryd ymaith ei goes. Dywedir iddo, ar ol i'r operation fyned drosodd, gyfodi ar ei eistedd, gan ddiolch mai ei goes, ac nid ei dafod a gymerwyd ymaith, ac y gallai wedi hyny bregethu Crist. O hyny allan defnyddiai goes bren, a daeth yntau i gael ei enwi bellach yn Rhys Dafis y goes bren. O ran ei ddyn oddiallan, ni chyfrifid ef yr harddaf o ddynion, ond tueddai yn hytrach at fod yn hagr yr olwg arno, a meddai gryn lawer o hynodion. Yn wir, gellid ei ystyried ef yn hollol unique, heb neb yn debyg iddo yn mysg dynion. Beth er hyny, llwyddodd i enill llaw a chalon merch i dirfeddianwr bychan o Langeler, Swydd Gaerfyrddin, canys yn y flwyddyn 1808 ymunodd mewn priodas gyda Mary Jones, merch Daniel Jones, o'r lle a nodwyd. Wedi ymsefydlu yn y byd, aeth i fyw i dyddyn bychan o'r enw Penlon, yr hwn oedd yn cynwys digon o dir at gadw dwy fuwch a