Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cheffyl, ac yno y trigodd efe dros weddill ei oes. Ganwyd iddynt bedwar o blant; dau o feibion a dwy o ferched, y rhai a enwyd ganddynt yn David, Thomas, Mary, a Hannah. Y mae yr olaf eto yn fyw, ac yn trigianu yn Nghaerfyrddin, ac yn aelod ffyddlon yn nghapel Heol yr Undeb.

Yr oedd cylch gweinidogaeth Rhys Dafis, yn cynwys yr holl Dywysogaeth; fel y daeth ef a'i anifail yn adnabyddus drwy holl Gymru. Adroddir llawer o bethau digrifol am dano ef a'i geffyl, ac nid bob amser yr ymddygid yn garedig atynt, pan ill dau ar eu teithiau efengylaidd, canys dywed y Parch. J. Thomas, D.D., Liverpool, yn un o'i ysgrifau tra dyddorol ar "Letydai Cymru," yn y Dysgedydd am 1890, tudalen 301, fel y canlyn, "Mae dygwyddiad yn dyfod i'm cof y funyd yma, ac y mae yn rhaid i mi gael ei grybwyll. Yr oedd Mr. Davies, Aberteifi, a Mr. Griffiths, Hawen, neu Horeb, nid wyf yn sicr pa un, yn myned i ryw Gymanfa, a Rhys Dafis yn myned gyda hwy; a rhaid oedd iddynt fyned drwy Gaerfyrddin, a galwasant yn y Drovers Arms i gael lluniaeth iddynt eu hunain, ac ebran i'w hanifeiliaid. Y Drovers oedd y ddisgynfa y pryd hwnw, fel y mae eto, ac o westy, anhawdd cael lle mwy cysurus. Cedwid y ty y pryd hwnw gan Mrs. Davies, neu fel y gelwid hi yn nhafodiaith gyffredin y wlad, Mari'r Drovers.

Yr oedd iddi wr yn ddyn caredig, ond hi oedd