Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cario y llywodraeth. Yslaben o ddynes fawr arw yr olwg arni ydoedd, yn siarad yn uchel, ac yr oedd ei geiriau yn mhell o fod yn felfedaidd; ond fel y dywedir weithiau, yr oedd y gair garwa yn mlaenaf ganddi, oblegid o dan y gerwindeb yr oedd cryn lawer o dynerwch a charedigrwydd. Ond gwyddai yn dda ar bwy i wneud yn hyf, a phan y deuai rhai o oreugwyr yr enwad heibio, medrai eu parchu â llawer o urddas. Pan ddaeth y tri wyr at ei drws, yr oedd hi yn brysur yn darllaw; ond y fath oedd ei pharch i Mr. Davies, a Mr. Griffiths, fel y mae yn troi pob peth o'r neilldu i roddi croesaw iddynt; ac yn erchi rhoddi ceffylau y ddau wr enwog yn yr ystabl, a rhoddi ymborth iddynt, a throi ceffyl Rhys Dafis i'r yard, er mai hwnw, druan, oedd y mwyaf anghenus o'r tri. Ar ol cael lluniaeth, y maent yn ail gychwyn, ond cyn eu bod nepell oddiwrth y dref, dechreuai ceffyl Rhys Dafis ddangos bywiogrwydd mwy nag arferol, pranciai fel ebol, ac o'r braidd y gallai ei farchogwr ei reoli; a'r casgliad a dynent oll oedd ei fod wedi cael feed dda yn y Drovers.

Cyrhaeddwyd y Gymanfa, ac aeth heibio, ac wrth ddychwelyd drachefn, galwai Mr. Davies a Mr. Griffiths, yn y Drovers, ond nid cynt yr oeddynt yno nag y dechreuodd Mrs. Davies drin Rhys Dafis a'i geffyl; ac yna adroddai ei bod wedi tywallt llestriad o'r breci cryfaf, a'i roddi allan yn yr yard i oeri, ond i geffyl Rhys Dafis fyned yno