Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i yfed bob dyferyn. Deallasent hwythau erbyn hyn beth oedd yr ysbrydiaeth oedd ar yr asynyn nes peri ei fod yn prancio mor ddilywodraeth. Ond arbedasid hyn oll i wraig y Drovers pe troisid anifail yr hen bregethwr di-urddau i'r ystabl i gael lluniaeth, fel y gwnaed âg anifeiliaid y gwyr parchedig."

Adroddai y Parch Job Miles, Aberystwyth, wrthym am Rhys Dafis yn lletya ar un o'i deithiau am noson unwaith, yn y Baily Coch, ger Tai Hirion. Yn ol defod ac arferiad y teulu, aeth— pwyd i gynal addoliad teuluaidd, ac wrth gwrs gosodwyd ar yr hen apostol teithiol i wasanaethu y tro hwnw; ac yn bresenol yn yr addoliad, yr oedd cath berthynol i'r teulu. Gan yr arferai yr hen bererin ddull gwreiddiol o daflu ei law, a phoeri llawer wrth bregethu a gweddio hefyd, ac felly y waith hon yn y Baily Coch.

Wrth weled yr ymddygiad hwnw o'i eiddo, meddyliodd y gath mai ei gwatwar a'i dirmygu hi yr ydoedd y gweddiwr, a theimlodd fod hyny yn ormod i'w oddef, a dechreuodd hithau, titw, chwyrnu a phoeri, a dangosai fod ganddi allu rhyfeddol yn y cyfeiriad hwnw, a rhwng fod Rhys Dafis yn poeri, a'r gath hithau yn parhau i chwythu bygythion a chelanedd, cafodd y teulu drafferth flin wrth geisio cynal i fyny anrhydedd yr addoliad crefyddol hwnw, canys yr oedd yr olygfa yn gyfryw, fel yr oedd braidd yn anmhosibl i'r gwyddfodolion ym-