Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadw rhag ymollwng i ysgafnder a chwerthin, heb son am allu addoli. Heblaw hyny, nid oedd modd i neb symud i ddysgyblu y gath, gan ymaflyd yn ngwar y bechadures, a'i bwrw hi allan o'r synagog, heb i'r oruchwyliaeth hono derfysgu mwy ar yr addoliad, a buasai yn berygl i hyny enyn natur boethwyllt y gweddiwr yn fflam dân, nes y buasai yn llefaru geiriau brwmstanaidd ar ganol ei weddi deuluol. Ond gan i bawb ymlonyddu, ni bu yno unrhyw drychineb annymunol.

Dygwyddodd llawer o bethau tebyg yn ei hanes, y rhai pe ysgrifenid hwynt bob yn un ac un, angenrhaid fyddai cael cyfrol i'w cynwys hwynt yn unig. Er hyny, na feddylied y darllenydd mae y ffaith mai coes bren oedd gan Rhys Dafis, ac i lawer o ddygwyddiadau digrifol gymeryd lle yn nglyn âg ef yn ystod ei ymdaith drwy y byd, oedd yn cyfrif am ei hynodrwydd; na, yr oedd iddo ef ei nodweddau ar wahan i hyny, y rhai sydd yn rhwym o hawlio sylw yn mhob oes, gan edmygwyr cymeriadau gwreiddiol. Gwnaeth ddaioni lawer, drwy efengyleiddio ac addysgu y bobl yn y lleoedd y bu yn aros ynddynt. Goddefodd fesur o erledigaeth a gwawd mewn rhai lleoedd, yn nghyflawniad ei waith pwysig, fel llawer un arall yn y dyddiau hyny, canys yr oedd erlidiau yn rhan helaeth o freintiau pregethwyr yr oes hono. Nid oedd ef yn berffaith, ond yr oedd yr hyn a ystyrid yn ddiffyg ynddo, fel yr ymwthiai i'r golwg.