Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nhai y capeli, ac mewn aneddau eraill, yn ei dymher boethwyllt, yr hon ar y cynhyrfiad lleiaf a enynai yn fflam dân, nes y llefarai yn angerdd ei deimlad, eiriau a losgent fel tân, yn cael ei gwerthfawrogi ynddo, fel yr oedd yn cael ei hamlygu yn y gwresawgrwydd nodedig a'i nodweddai ef yn yr areithfa. Yr oedd absenoldeb gwres o'r areithfaoedd yr adeg hono yn deimladwy, canys yr oedd llawer o bregethwyr lled oerion a difywyd yn tramwy ar hyd y ddaear y dyddiau hyny, fel yr oedd cyfodiad Rhys Dafis yn tori ar unffurfiaeth oerllyd yr oes hono. Nid tân dyeithr ychwaith, ond y tân santaidd oedd ganddo ef yn llosgi ar allor ei galon, a phan y llefarai efe, byddai calonau eraill yn cael eu tanio hefyd. Ei arwyddair ydoedd, "Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr ysbryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd." Tramwyai gan bregethu y gair, a cheisiai lenwi y wlad âg efengyl Crist. Cafwyd prawf amlwg ynddo ef ddarfod i Dduw ethol ffol bethau y byd, fel y gwaradwyddai y doethion; a gwan bethau y byd, a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygus a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. Pwy a all ddirnad yn gywir faint y daioni a gyflawnwyd yn ein gwlad gan bregethwyr cynorthwyol a theithiol fel hyn. Addefwn yn rhwydd fod dull y byd yn myned