Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heibio yn gyflym yn y peth hwn fel mewn pethau eraill, a bod cyflwr a sefyllfa ein gwlad wedi newid yn ddirfawr yn yr haner can mlynedd diweddaf, o'i chyferbynu â'r hyn ydoedd yn flaenorol i hyny. Eto, dylid ymbwyllo rhag troi draw bob pregethwr a ddaw heibio yn yr wythnos. Gall Eglwys drwy gau ei drws felly, golli cyfleusdra gwerthfawr, a bod yn euog o wrthod cenadwri briodol ati oddiwrth Dduw. Ni ddylid anghofio y gall Andreas fod yn foddion yn llaw Duw i ddwyn Simon at yr Iesu, neu y lleiaf i ddylanwadu ar y mwyaf, yr hyn a welir yn amlwg yn hanes Rhys Dafis yn nglyn â gwrthddrych y cofiant hwn. Edmygai Rhys Dafis ei fab enwog yn y ffydd yn ddiderfyn, ac nid oedd hyny ond peth hollol naturiol. Rhyfeddai yr hen bregethwr os cyfarfyddai âg un oedd heb adnabod Mr. Williams. Edrydd y Parch. J. Rowlands, Talysarn, yr hanes canlynol am dano:—"Clywsom un o ddiaconiaid Brynseion, Brymbo—un sydder's blynyddau bellach wedi dilyn ei hen weinidog i'r cartref tragwyddol, yn adrodd hanes ymweliad o eiddo Rhys Dafis â maes llafur Mr. Williams. Yr oedd yr hen efengylwr i bregethu yn Brymbo. Enw cyntaf y capel ydoedd Cyfynys, wedi hyny Harwd. Ymddengys nad oedd y capel yn un o'r rhai hawddaf d'od o hyd iddo, gan ei fod mewn lle neillduedig, yn arbenig felly i wr dyeithr. Yr oedd Rhys Dafis wedi dyfod i'r gymydogaeth, a methai