Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gweled y capel; a chyfarfu â llefnyn o fachgen ar y ffordd, a gofynai iddo, "Yn mha le y mae capel y Gyfynys, machgen i? Wn i ddim,' ebai'r bachgen. 'Wel aros di,' ebai yntau, 'yn mha le y mae Capel Harwd yma?' "Dwi ddim yn gwybod,' ebai y bachgen. Yn mha le y mae Capel yr Annibynwyr?' ebai'r hen bregethwr. 'Nis gwn, ebai'r bachgen. 'Wel, aros di, yn mha le y mae Capel Sentars yma?' 'Wn i ddim,' oedd yr ateb. Erbyn hyn teimlai yr hen efengylwr ei sel dros ei fab yn y ffydd yn cynhyrfu gyda phob atebiad o eiddo y bachgen, gan ei fod yn credu nad oedd y fath ddyn ag ef ar y ddaear, ac y dylasai pob creadur rhesymol ac afresymol bron yn y gymydogaeth hono wybod lle yr arferai y fath seraph bregethu ynddo. 'Wel, aros di eto, yn mha le y mae Capel Mr. Williams o'r Wern yma.' 'Wn i ddim,' ebai yntau. 'Wel, yr wyt ti yn adnabod Williams, onid ydwyt?' 'Nag wyf fi,' ebai y bachgen. Yr oedd natur yr hen bregethwr erbyn hyn yn berwi, ac meddai wrth y bachgen, 'Ddim yn adnabod Williams o'r Wern, mae y cythraul yn adnabod y dyn hwnw,' a tharawodd ei goes bren yn y ffordd gyda'r fath nerth, nes yr oedd yn clecian, a diangodd y bachgen, druan, ymaith mewn dychryn am ei fywyd." Meddai Mr. Williams yntau barch diledrith tuag at Rhys Dafis, fel y dengys yr hanesyn canlynol, yr hwn a anfonwyd i ni gan y Parch. J. Thomas, Leominster, gynt o'r