Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wern, "Cyfarfu dau weinidog—un yn oedranus a'r llall yn bur ieuanc—ar ymweliad â Mr. Williams yn y Talwrn. Trodd yr ymddyddan wrth fwrdd ciniaw am Rhys Dafis y goes bren, fel ei gelwid yn gyffredin. Tueddai beirniadaeth y ddau ymwelydd i fod braidd yn rhy lem ar yr hen bregethwr. Gwrandawai Mr. Williams arnynt am ychydig, ond gwelai yr ieuengaf o'r ddau fod yr ymddyddan yn anghymeradwy. Rhoddodd Mr. Williams yr arfau bwyta o'r neilldu, a dywedodd yn araf, ond eto yn gryf 'waeth i chwi heb siarad, frodyr, nid yw yn gyfrifol am lawer iawn o'i ddiffygion. Duw wnaeth ei geg, ac nid efe ei hun. Medr ysbryd yr Hollalluog ganu yn bereiddiach gyda chyrn hyrddod, nag y medrai yr un Handel fu erioed ar y berdoneg oreu yn yr holl greadigaeth. Byddaf fi yn ddyledwr tragwyddol i Rhys Dafis yn y nefoedd.' Darfu yr ymddyddan am dano yn y fan, a theimlodd y ddau ymwelydd lawer mwy o barch i'w enw byth ar ol hyny. Yr ieuengaf o'r ddau weinidog a adroddodd yr ymddyddan uchod i mi yn yr un ystafell yn y Talwrn ag y cymerodd le, yn mhen deugain mlynedd ar ol hyny—mor rhyfedd onide?"

Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo, ac wedi goleuo llawer ar y trigolion mewn gwahanol ardaloedd, o'r diwedd llosgodd allan. Bu farw yn dra sydyn Ionawr 5ed, 1847, yn 75 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Llangeler.