Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pregethwyd ei bregeth angladdol gan y Parch. J. Evans, Hebron, oddiar y geiriau "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd."

Hoffasem yn fawr iawn roddi yn y gyfrol hon ddarlun o'r hen bregethwr gwreiddiol a llafurus, ond wedi ymofyn â Miss Hannah Davies ei ferch, deallasom nad oes darlun o hono i'w gael, ac felly nis gallwn wneuthur yr hyn unwaith a fwriadem; ond pa le bynag y sonir am y bregeth gyntaf a draddodwyd gan bregethwr Annibynol yn Nhalybont, swydd Aberteifi, ac am y bregeth hynod yn Medd-y-Coedwr, swydd Feirionydd, bydd coffa parchus hefyd am Rhys Dafis, goes bren, fel yr un a anrhydeddwyd gan Dduw i gychwyn yr achos Annibynol yn Nhalybont, ac i fod yn offeryn yn ei law yn Medd-y-Coedwr i ddychwelyd Williams o'r Wern at yr Arglwydd. Y mae y gwaith mawr a gyflawnodd yn ei oes, heblaw y ffeithiau a nodir uchod, yn werthfawrocach dangoseg o hono nag unrhyw ardeb o'i berson o waith y cywrain i'w drosglwyddo i'r oesau a ddelo ar ol.