Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/610

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwin, eto mae ei fywyd pur, ei lafur hunanaberthol, a'i dalentau dysglaer, y tân sanctaidd a losgai yn ei enaid yn fyw, ac yn dyfod yn fwy byw bob blwyddyn. Mae ei ddylanwad ef fel pob gwir gymeriad arall yn gryfach ar ei genedl heddyw nag erioed o'r blaen. Oes, y mae gwyrddlesni tragywyddol yn nghoffadwriaeth Williams o'r Wern. Nid oedd ond beddfaen gyffredin i nodi man fechan ei fedd, ac yr oedd y gwaith dan hono wedi adfeilio, a hithau wedi gwyro, fel rhwng pob peth, yr oedd yn berffaith annheilwng o fedd gwr Duw. Teimlai dyeithriaid a ddeuent i weled ei fedd yn dra siomedig wrth weled yr olwg arno mor ddinod ac adfeiliedig. Yn y sefyllfa yma ar bethau, ymgynghorodd nifer o gyfeillion â'u gilydd, a phenderfynasant godi Cof-golofn deilwng ar ei fedd. Dechreuwyd ar y gwaith yn ddioed, a gorphenwyd ef yn anrhydeddus, a dydd Mawrth yr 16eg cyfisol, yr oeddys yn myned drwy y seremoni o ddadorchuddio y Gof-golofn. Yr oedd newydddeb y peth, a phoblogrwydd Mr. Williams yn y cylchoedd hyn, yn peri fod dysgwyliad mawr am y dydd, a dyddordeb dwfn yn enynu llawer calon. Cafwyd diwrnod o'r fath a garem. Agorai y dydd mewn tawelwch hafaidd, ac erbyn canol dydd, tywalltai yr haul ei belydrau siriol ar feddau anfarwolion mynwent y Wern. Oddeutu un yn y prydnawn, gwelid cerbydau lawer yn llawn o bobl barchus, a llawer o wŷr ar draed yn cyrchu i'r hen lanerch