Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/611

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gysegredig. Hawdd oedd deall wrth eu dwysder a'u difrifwch fod teimladau cymysg yn rhedeg trwy eu calonau wrth nesâu at fedd gwr Duw, a lle hefyd yr hunai llu o'u cyfeillion, a'u perthynasau. Haner awr wedi dau oedd yr amser penodedig i ddechreu ar y gwaith, a phan oedd y dorf yn araf symud oddiwrth dŷ Mr. E. Daniell i'r fynwent, pwy a ddaeth i'r golwg yn eu cerbyd hardd yn cael ei dynu gan feirch porthianus, ond Syr George Osborne Morgan, A.S., a Lady Osborne Morgan, Brymbo Hall; a chawsant dderbyniad serchog, ond perffaith gydweddol â natur y cyfarfod. Yr oedd y gorchudd ar y golofn a guddiai o olwg y dyrfa yr enw anwyl y daethid i'w anrhydeddu y dwthwn hwnw, wedi ei barotoi yn ofalus gan Mrs. Roberts y Rhos. Cymerwyd yr arweiniad ar yr achlysur gan y Parch. S. Evans, Llandegla, fel y gweinidog hynaf yn y cylch. Wedi canu emyn yn dra effeithiol, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. J. Roberts, Brymbo. Yr oedd ei gyfeir—iadau tyner, a naws hyfryd ei ysbryd yn peri fod pob calon yn teimlo, a phob llygad yn ffrwd o ddagrau. Yna galwyd ar Mr. Griffiths, King's Mill, yr hwn sydd dros 84 mlwydd oed, i ddadorchuddio y golofn. Tra yr oedd yr henafgwr parchus a'i ddwylaw crynedig yn cyflawni y gorchwyl dyddorol, yr oedd llygaid pawb yn craffu arno, a phan dynwyd y llen ymaith yn llwyr, ac y tywynai yr haul ar y maen caboledig, a'r