Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/613

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

roddwyd gan Mr. Griffiths, King's Mill, cafwyd symiau gan eraill, a chyfranodd rhai o bob enwad, heb eithrio yr Eglwys at addurno bedd gwr Duw. Yn awr, dyma y gwaith wedi ei orphen, ac fe erys y golofn hon i ddynodi bedd Mr. Williams, pan y byddwn ni oll sydd yma heddyw yn llechu yn llwch y bedd. O na chaem ei ysbryd ef i symud yn nghalonau y gweinidogion a'r eglwysi y dyddiau hyn.

Y nesaf oedd y Parch. J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), Gardden House. Dywedai ef ei fod yn credu fod Mr. Williams wedi codi cof-golofn ei hun, er hyny, da gwnaeth y cyfeillion yn codi y golofn brydferth hon i wr mor deilwng. Nid ydyw y gwaith hwn ond datganiad o'r serch cryf sydd yn y genedl Gymreig tuag at ei gweinidogion.

Yna galwyd ar Dr. J. Thomas, Liverpool. Dywedai, Yr ydwyf yn cofio Mr. Williams yn dda. Nid oedd neb yn deall natur yn well nag ef. Er na byddai byth yn son am athroniaeth, eto yr oedd efe yn athronydd. Er na byddai yn gwneud ymdrech mawr wrth bregethu, eto gwyddai sut i gyffwrdd â holl danau y natur ddynol. Yr oedd bachau yn ei bregethau. Edmygai pawb farddoniaeth hedegog Christmas Evans, ac areithyddiaeth hyawdl John Elias, ond dywediadau Mr. Williams a goffeid fynychaf ar lafar gwlad. Duw a godo luaws o'i fath eto yn Nghymru.

Yna cododd Syr George Osborne Morgan, A.S. Dywedai ei fod yn wir falch o gael bod gyda'i gyf-