Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/614

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eillion y dydd hwnw i anrhydeddu coffadwriaeth un o feibion penaf Cymru. Yr oedd yn cofio ei dad yn dweyd fod John Elias, Christmas Evans, a Williams o'r Wern, yr un peth i grefydd efengylaidd yn Nghymru ag oedd John a Charles Wesley yn Lloegr. Ni byddai yn rhaid i Ymneillduaeth Cymru ofni yn ngwyneb cyfnewidiadau y dyfodol, os byddai yr ysbryd rhagorol oedd yn ysgogi y dynion hyn yn fyw yn y wlad.

Yn nesaf cafwyd gair gan yr Hybarch. Ddr. Rees, Abertawe. Dywedai ei fod wedi cael y fraint o ddechreu yr oedfa i Mr. Williams dair gwaith pan ar daith yn y Deheudir. Cofiai yn dda y dylanwad rhyfeddol oedd yn cydfyned à'i weinidogaeth yn y daith hono. Nid oedd Mr. Williams, wedi ysgrifenu llawer, ond nid oedd un llinell yn yr hyn a ysgrifenodd efe a allasai beri gofid iddo wrth farw. Dyn llawn o dynerwch oedd efe, heb geisio poeni neb, ond cysuro pawb. Galwyd yn nesaf ar Mr. Jenkins, Liverpool. Dywedai mai nid llawer o gof-golofnau a godir yn Nghymru, ond i weinidogion a dynion da eraill. Arwydd dda mewn cenedl ydyw, ei bod yn gallu gweled, teimlo, a pharchu y rhinweddol a'r da. Un o'r anogaethau cryfaf i ddaioni ydyw, fod cymeriadau da yn d'od i fwy o barch fel y mae yr oesau yn treiglo, a chymeriadau gwael yn darfod ac yn diflanu. "Enw yr annuwiol a bydra, ond coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Credai ef mai Mr. Williams