Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/616

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwyr fel y canlyn:—Salem, Coedpoeth, Parchn. T. Roberts, Wyddgrug, a T. Rees, D. D.; Adwy r Clawdd, (Saesonaeg), Parch. D. M. Jenkins, Liverpool; Rhostyllen, Parch. H. Rees, Caer; Rhosllanerchrugog, Parchn. D. S. Jones, Chwilog, a J. Thomas, D.D. Yr oedd yr holl gapelau uchod wedi eu gorlenwi, a chafwyd pregethau nerthol. Parhaed yr amddiffyn ar yr holl ogoniant."

Fel y gwelir oddiwrth y darlun, y mae y gof-golofn, o ran gwerth, uchder, a harddwch, yn bob peth ellid ddymuno, ac yn hollol gyfaddas i'r lle. Dylid hysbysu yma, mai eiddo y Parch. R. Roberts, Rhos, yn benaf, yw yr anrhydedd sydd yn gysylltiedig â chyfodiad y gof-golofn, oblegid efe oedd cychwynydd ysbryd a bywyd y symudiad teilwng.

Wrth edrych unwaith ar ddarluniau y tri chedyrn, dywedodd yr anrhydeddus William Ewart Gladstone, fod eu hwynebau yn arddangos nerth digonol i ysgwyd creigiau Cymru. Gwir o frenin, canys darfu iddynt drwy eu Duw, ddymchwelyd mynyddoedd cedyrn hen arferion pechadurus o'r gwraidd, y rhai oeddynt yn anhawddach eu diwreiddio na hyd yn nod symud mynyddoedd Gwyllt Walia. Colledwyd Cymru yn ddirfawr, a hyny megys ar unwaith, drwy gymeryd oddiarni y tri chedyrn mor fuan y naill ar ol y llall, canys nid oedd ond ysbaid pedair blynedd rhwng marwolaeth y cyntaf, nad oedd yr olaf o honynt wedi diosg ei arfogaeth.