Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/617

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond cysur Sion y pryd hwnw, yn gystal a'r pryd hwn, yw, fod "cadarn Dduw Israel" yn aros yn breswylfa iddi yn mhob cenedlaeth. Tra y mae genym achosi ddiolch i Dduw, am iddo gyfodi gwrthddrych y Cofiant hwn i fod y fath addurn i'n henwad, ac i grefydd yn gyffredinol, nis gallwn wrth sychu ein hysgrifell, ymatal heb amlygu yn mhellach ein diolchgarwch i'r Arglwydd, am anrhydeddu ein henwad â'r fath nifer o bregethwyr galluog, y rhai sydd yn awr ar y maes, y rhai ydynt wedi eu donio, eu haddurno, a'u dysgu, nes eu bod mor gymhwys i drin yr arfau gofynol at waith yr oes hon, ag ydoedd y Parchedig William Williams o'r Wern at waith ei oes ef; ac yn sicr, nis gall neb ddeisyfu anrhydedd uwch mewn unrhyw oes, na bod yn

"FILWR DA I IESU GRIST."

DIWEDD.