Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cael ei waredu—Yn cynyddu mewn crefydd—Yr eglwys yn ei anog i ddechreu pregethu—Yntau er yn ofni yn ufuddhau—Ei destun cyntaf—Huw Puw o Dyddyngwladys, yn ei glywed yn pregethu mewn llwyn o goed—Pregethu yn Nhyddynybwlch —Mr. Jones yn ei ganmol—Coffadwriaeth gwr a gwraig Tyddynybwlch yn fendigedig—Y son am ein gwrthddrych yn ymledu—Prinder llyfrau—Ei hoff awduron—Ei chwaer Catherine gynorthwyo Y diafol yn ei demtio—Gorchfygu y demtasiwn Yr Hybarch William Griffith, Caergybi, yn cael ei demtio yn gyffelyb—MR. WILLIAMS yn cael amrai waredigaethau—Myned rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd—Pregethu yn effeithiol yn Ábergeirw mawr—Cael profedigaeth ddigrifol wrth bregethu yn Nhyddyn mawr—Ei hunanfeddiant yntau yn ei gwyneb—Pregethu yn "Y Parc," Cwmglanllafar—Barn un o oraclau Llanuwchllyn am dano—Yr enwad Annibynol yn fychan yn Meirionydd ar y pryd—Erbyn hyn wedi cynyddu yn ddirfawr..

YN y bennod flaenorol, gwelsom fel y darfu i'r Arglwydd arwain ei was i bregethu yn Bedd—y—Coedwr, a'r canlyniad gogoneddus. a fu i'r oedfa, a'r cwbl yn profi mai nid o waed, nac o ewyllys gwr, eithr mai o Dduw yr oedd y peth, fel y byddai godidawgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o ddynion. Adeiladwyd capel cyntaf Penystryd yn 1789, ar dir Dolgain, pellder o ryw ddwy neu dair milldir o Drawsfynydd, tua chyfeiriad cartref ein gwrthddrych. Lleolwyd yr addoldy uchodoldy uchod