Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn pantle unig a llwm yn y mynydd-dir, ac nis gellid ei weled nes bod yn ei ymyl. Ni chanfyddid oddiar ei fuarth un drigfan o eiddo dyn nac anifail. Mwynheir yma y tawelwch hwnw sydd yn fanteisiol ac yn angenrheidiol er cyflwyno addoliad i Dduw. Wrth weled y fath dyrfa niferus wedi ymgasglu yn nghyd i'r addoldy, gellid tybio mai neidio allan o'r twmpathau grug a brwyn gyda brys a ddarfu iddynt, ac nid rhyfedd fuasai clywed dyeithr ddyn yn gofyn mewn syndod, o ba le y daeth y rhai hyn? O ran ei gynllun, ni welsom ni erioed gapel tebyg iddo. Yr oedd y drws i fyned i'r llawr ar yr aswy, a grisiau cerrig ar yr ochr dde oddiallan i fyned i'r oriel. Gan fod yr oriel bron a bod yn daenedig drosto, oll nid gorchwyl anhawdd i'r pregethwr o'r areithfa fuasai ysgwyd llaw â'r rhai o'r rhai a eisteddent ar ymyl yr oriel. Nis gallasai y pregethwr o'r areithfa weled yr oll o'r gynulleidfa ar y llawr. Yr oedd drws bychan yn ffrynt ei bulpud uchel, er mwyn gollwng goleuni drwyddo o'r ffenestr oedd tu ol iddo i'r llawr. Addurnid wyneb yr oriel â nifer mawr o blatiau eirch, yn eynwys enwau y meirw a orweddent yn y fynwent gerllaw. Er na feddai wychder allanol, eto, anhawdd fyddai nodi addoldy lle y teimlwyd nerthoedd y byd a ddaw yn fwy grymus, nag y teimlwyd hwynt yn Mhenystryd. Neillduwyd y duwiolfrydig Mr. William Jones yn weinidog yma, Mai 22ain, 1792. Llafuriodd yn y cylch hwn am wyth mlynedd ar hugain gyda ffydd-