Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

londeb mawr. Wrtho ef y prophwydodd yr hen brophwyd o Bontypool, "Na byddai fawr lwydd ar ei weinidogaeth drwy ei oes, ond y gwelai ychydig o adfywiad cyn y diwedd," ac megys y dywedodd, felly yn hollol y bu i olwg ddynol beth bynag. Bu yn rhodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd am flynyddoedd lawer, ond o'r diwedd torodd gwawr diwygiad arno, yr hyn oedd yn llawenydd penaf ei galon. Y fath ydoedd y mwynhad a deimlai unwaith, fel yr aeth filldiroedd tuag adref heb ei anifail, ond yn rhywle ar y ffordd, cofiodd am dano, a gofynodd yn sydyn i'w gwmni, "Ha wyr bach, yn mha le y mae yr hen geffyl?" Yr oedd Mr. Jones yn gweinidogaethu yma er's dwy flynedd cyn dychweliad ein gwron at grefydd. Y mae yn debyg mai i Benystryd yr elai Mr. Williams er yr agorwyd ef. Bu yno droion mor ysgafn ei galon a'r ehedydd, mor rhydd a'r awel, heb ddim neillduol yn gwasgu ar ei feddwl. Ysgrifenai yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am dano yn y cyfnod hwn fel y canlyn:-"Yr wyf yn cofio yn dda y son cyntaf a glywais am dano. Yr oedd hyny pan oeddwn tua chwech neu saith oed. Arhosai dwy wraig o Drawsfynydd am noswaith yn nhy fy mam, ac am dano ef yn benaf y siaradent. Yr oedd y ddwy hyny ychydig yn hyn nag ef, ac yn dra chydnabyddus âg ef er pan oedd ef yn fachgenyn. Dywedent mai bachgen chwareus a direidus nodedig ydoedd efe, a byddai felly yn