Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arbenig yn y capel. Piniai ddillad y merched a eisteddent o'i flaen wrth eu gilydd, ac ysgrifenai enwau ar gefnau eraill gyda math o chalk. Ymdrechai y merched am gael lle i eistedd a'u cefnau ar y pared fel na chai William Cwmeisian Ganol fyned o'r tu ol iddynt. Dyna fel y dywedai y gwragedd hyny pan yn siarad a fy mam am dano, a minau yn gwrando arnynt, ac yr wyf yn eu cofio yn dda yn awr. Dywedent hefyd, eu bod yn y capel yn edrych arno yn cael ei dderbyn i gymundeb yn fachgen ieuanc."

Yn fuan wedi pregeth Rhys Dafis yn Bedd-y-Coedwr, aeth William Williams yn ei hugan lwyd, yn wledig yr olwg arno, i'r gyfeillach grefyddol i Benystryd. Aeth yno, nid i ddifyru ei hun, ond i ymofyn yn grynedig am le yn nhy Dduw, ac ymgeledd i'w enaid. Edrychent oll arno gyda synder, ac yn eu hymddygiad tuag ato; gofynent yn ddychrynedig iddo, fel y darfu i henuriaid Bethlehem gynt ofyn i Samuel, "Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" Gallasai yntau eu hateb drwy ddywedyd, "Heddychlawn, daethum i aberthu i'r Arglwydd." Gan eu bod yn hysbys o'i fywiogrwydd gynt, ac heb fod yn hollol rydd oddiwrth y pechod o ddiystyru ei ieuenctyd, nid oeddynt yn weinidog na brawdoliaeth, yn deall yn glir pa beth i ddywedyd wrtho, na pha gwrs i'w gymeryd gydag ef, pa un ai ei dderbyn neu ei wrthod a wnaent, ond yn y diwedd, yr etholedigaeth a'i cafodd, faint bynag