Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r lleill a galedwyd o herwydd y sylw a roddwyd iddo. Beth pe buasai yr eglwys a'r gweinidog yn Mhen'stryd y noswaith hono yn gallu gweled gwerth yr anrheg a roddwyd iddynt yn ngoleuni dyfodol y llanc dirodres a safai o'u blaen, diau y buasent oll yn llamu gan lawenydd, am ddarfod i'r Arglwydd eu mawrhau drwy roddi iddynt un ag oedd i ysgwyd yr holl Dywysgogaeth â'i ddoniau nerthol cyn pen nemawr o amser. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod cyn ei fod yn bymtheg oed, ac anfynych iawn y derbynid neb yn yr oedran cynarol hwnw yn yr oes hono, ac o herwydd hyny, nid rhyfedd fod y derbyniad a roddwyd iddo wedi tynu sylw y lluaws. Wedi hyny ymwrthododd yn llwyr ac ar unwaith â phob chwareuon pechadurus, ac ymroddodd a'i holl egni i ymarfer ei hun i dduwioldeb. Yn yr adeg hon perchenogai bêl droed, ond aeth a'r bêl adref gan roddi brathiad drwyddi â'i gyllell, a dywedodd nad oedd ef am chwareu gyda hono byth ond hyny. Bu yn wasgfa a chaledi ar ei feddwl ar ddechreu ei ymdaith grefyddol, a hyny i'r fath raddau fel "na wyddai yn y byd beth i'w wneuthur iddo ei hun oni buasai aberth y groes." Cylchynid ef y pryd hyny gan ddylanwadau ocddynt yn ffafriol i feithriniad ei rasusau crefyddol. Yr oedd ei fam, ci frawd Robert, a'i chwaer Margaret eisioes yn crefydda yn ddiwyd. Ond bu y ddau olaf feirw yn fuan. Gan fod ein gwrthddrych a'i chwaer Catherine yn cyd-ddechreu ar eu hymdaith grefydd-