Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol, elent yn ffyddlon eu dau gyda'u gilydd i Benystryd drwy bob math o dywydd, ac er fod eu ffordd yn bell ac yn arw, nid oedd tywyllwch ac oerni y gauaf, na gwres lleddfol yr haf yn eu lluddias i ddilyn y cyfarfodydd yn ddifwlch. Byddai Mr. Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio ar eu teithiau hyn, a deallai amser eu mynediad a'u dyfodiad yn gywir, ac yn ddireidus a chwareus ddigon, lluchiai fân geryg dros y gwrychoedd ar eu hol.

Ond yr oedd y brawd a'r chwaer yn deall mai o ran rhyw ddigrifwch diniwed y gwnai efe hyny, fel nad oeddynt mewn un modd yn cymeryd eu dychrynu ganddo. Adgofiai Mr. Williams am hyny yn aml, ac adroddai yr hanes gyda boddhad wrth Mr. Davies, Trawsfynydd, ac yn ddiweddglo i'r hanesyn dywedai, "Un direidus oedd Morris onide?"

Ofnai ein gwrthddrych y ceisid ganddo gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, a hyny yn fwy, am y teimlai y buasai pawb yn dysgwyl rhyw berffeith— rwydd amlwg byth wedi hyny yn ei fywyd. Arferai ei dad gadw dyledswydd gartref, fel y nodasom eisoes, a byddai ei fam yn gwneuthur hyny yn absenoldeb ei phriod. Un noswaith wedi i bawb o'r teulu ond efe a'i fam fyned i'w gwelyau, aeth ei fam i weddi, ac wedi iddi hi orphen, ceisiodd ganddo yntau fyned i weddi, a chydsyniodd â chais ei fam yn y fan. Yr oedd ei frawd hynaf yn effro ar y pryd, ac yn gwrando arno yn gweddio ar ol ei fam,