Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac edliwiai iddo boreu dranoeth, gan ei alw "Yr hen weddiwr." Teimlai y gweddiwr ieuanc beth cywilydd ar y pryd, ond diflanodd hyny ymaith yn fuan. Buasem yn hoffi gweled darlun o'r fam hon a'i bachgen pan yn gweddio wrthynt eu hunain y noswaith hono. Gwnelai ddarlun ardderchog mewn mynor neu ar len. Yn fuan wedi hyny gwasgai un o ddiaconiaid yr eglwys arno yn drwm i ddiweddu un o'r cyfeillachau drwy weddi, ond teimlai efe ei hun yn ofnus, ac yn ddiysbryd at y gwaith, ond wedi ei hir gymhell, o'r diwedd plygodd ar ei liniau a dywedodd, "Mae y dyn yma eisieu i mi weddio, O Arglwydd, dysg di fi i weddio, er mwyn Iesu Grist, Amen." Dyna, ddarllenydd, ei weddi gyhoeddus gyntaf. Blaenorwyd y weddi uchod gan weddi o'i eiddo ef gydai fam ar yr aelwyd ac yn sicr, lle manteisiol i arferu ar gyfer yr addoliad cyhoeddus yw yr aelwyd gartref, a thra y parheir i addoli Duw yn deuluol, ni bydd prinder doniau cyhoeddus yn yr eglwysi. Heblaw ei fanteision ar yr aelwyd gartref, cylchynid ef yn y cyfnod hwn gan ddiaconiaid gofalus eglwys Penystryd; a bu ganddynt ran yn ffurfiad ei gymeriad cyhoeddus, yn yr hyfforddiant medrus a roddasent iddo. Trwy garedigrwydd yr hen lenor galluog, Mr. W. E. Williams (Gwilym Eden), Dolymynach, Trawsfynydd, galluogir ni i roddi yma ychydig grybwyllion gwerthfawr o'i eiddo am danynt:— "Yr oedd rhai o'r rhai canlynol yn henafgwyr