Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

profiadol, ac eraill yn anterth eu nerth a'u defnydd— ioldeb, a'r rhai ieuengaf o honynt yn gyd—gyfoed— ion i'r anfarwol Mr. Williams pan yr oedd ef yn cael ei ddwyn i fyny yn yr Hen Gapel.

SION ELLIS, RHIWGOCH. Bu ef yn hwsmon i'r diweddar Mr. D. Roberts, Rhiwgoch. Yr oedd ei fuchedd, ei grefyddolder, ei ddiwydrwydd, a'i ffydd— londeb cyson i ddilyn moddion gras, yn hawlio iddo Er fod warogaeth a pharch oddiwrth bawb. ganddo y fferm fwyaf yn y plwyfi 'w harolygu, eto, anaml y collai efe unrhyw foddion. Tystiai Mr. Roberts fod ganddo fwy o ymddiriedaeth yn ei hwsmon, am ei fod yn "was da a ffyddlon" i'w Dduw "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Bu ef farw Medi 1af, 1812, yn 53 mlwydd oed.

IFAN JONES, TYDDYNBACH. Efe oedd yr hynaf o honynt. Dywedir ei fod yn swyddog eglwysig rhagorol, yn ddyn unplyg, ac yn Gristion gloyw iawn. Yr ydoedd ef yn un o'r colofnau cadarnaf o dan y baich, pan yr oeddynt yn adeiladu capel Penystryd; ymddengys ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn gefnog iawn. Gadawodd ddeg punt ar hugain, hyny yw, eu llogau, at gynaliaeth y weinidogaeth yn Mhenystryd "tra bo dwfr yn rhedeg.' Yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt Mri. Robert Owen, Gilfachwen, a Robert Isaac Roberts (yr hen Ddoctor) Penystryd Ffarm. Bu Ifan Jones farw yn 1817, yn 84 mlwydd oed.