Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SION PUW, BRYNLLINBACH.[1] Arno ef y disgynai y cyfrifoldeb o weithredu fel arweinydd yr eglwys yn absenoldeb y gweinidog. Yr oedd yn ddyn gonest a dihoced, ac yn swyddog ffyddlawn ac ymroddgar. Hynodid ef fel un ag yr oedd rhyw eneiniad nefol yn amlwg iawn ar ei holl gyflawniadau crefyddol. Yr wyf yn cofio dwy ferch ac un mab iddo yn aelodau defnyddiol yn yr hen Gapel. Bu farw Sion Puw, Awst 2il, 1820, yn 73 mlwydd oed.

ROBERT OWEN, GILFACHWEN. Ystyrid ef yn ddyn o ddylanwad a pharch cyffredinol. Meddai ar ddoethineb pell uwchlaw y cyffredin. Os cyfodai ymrafael ac anghydwelediad yn nglyn â materion gwladol yn y gymydogaeth; ato ef yr apelid am y ddedfryd derfynol. Er ei fod o dymher addfwyn a siriol, eto, pan y gorfodid ef i gyfodi i fyny i weinyddu cerydd, llefarai gydag awdurdod ac urddasolrwydd. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn hynod o ffyddlawn i ddilyn y cyfarfodydd gweddiau mewn gwahanol aneddau yn y gymydogaeth. Arferai ddywedyd, "Os cawn Beti Ifan, Dolymynach, a Beti Griffith, Tyddynmawr, i weddïo, a Sarah Jones, Caegwyn, i borthi y gwasanaeth, a nawdd y Goruchaf i roddi y fendith, byddwn yn sicr o gyfarfod bendigedig. Bu y Gilfachwen yn llety cysurus i bregethwyr tra y bu Robert Owen a'i

  1. Cofrestrwyd Brynllinbach i bregethu ynddo cyn i gapel Penystryd gael ei adeiladu.