Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

briod byw. Yr oedd efe yn un o'r diaconiaid a arwyddodd yr alwad i'r Parch. E. Davies (Derfel Gadarn) i ddyfod yma yn weinidog. Bu ef yma yn gweinidogaethu am bedair blynedd ar ddeg ar hugain gydag arddeliad a llwyddiant mawr. Cafodd yr eglwys ei cholledu yn fawr drwy farwol— aeth Robert Owen, yr hyn a gymerodd le Ionawr 24ain, 1831, yn 61 mlwydd oed.

HARRI PUW, BRYNLLINFAWR. Yr oedd ef yn meddu cyfoeth lawer, ac er yn ieuanc pan yr oeddynt yn adeiladu capel Penystryd, eto, gwnaeth ei ran yn ardderchog. Ymddengys ei fod wedi cael manteision addysgol helaethach na'r cyffredin y dyddiau hyny. Casglodd lyfrgell helaeth, yn cynwys y cyfrolau gwerthfawrocaf a allai gael gafael arnynt. Dywed yr Hybarch Humphrey Morris mai efe oedd y darllenwr goreu a glywodd erioed. Eisteddai ef a'i deulu lluosog o gylch y tân ar hirnos gauaf, a darllenai yntau iddynt ryw lyfr buddiol. Bu ei lyfrgell werthfawr at wasanaeth ei olafiaid yn Brynllin hyd yn ddiweddar. Meddai ar gorff lluniaidd, ac yr oedd yn dalentog i gynllunio, ac i weithio allan ei gynlluniau hefyd. Dygodd ei fab i fyny yn feddyg, sef y diweddar Dr. H. R. Pugh, Bala. Bu Harri Puw farw Mawrth 28ain, 1836, yn 65 mlwydd oed.

WILLIAM LLWYD, HAFODTYFACH. Dyn lled fyr a chrwn ydoedd ef. Gwisgai "glos pen glin "sana' bach," a chot a gwasgod o frethyn glas