Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cartref. Yr oedd efe yn wr addfwyn a thawel, ac yr oedd yn rhaid cael rhyw amgylchiad anghyffredin i gynhyrfu dim ar ei ysbryd. Yn wir, yr oedd bron a bod yn berffaith mewn hunanfeddiant. Efe wyf fi yn ei gofio gyntaf yn gweinyddu fel ysgrifenydd yr eglwys. Ni feddai efe fawr o hynodrwydd fel siaradwr, eto, nodweddid ei weddiau gan rhyw daerni ag oedd yn effeithiol iawn. Yr oedd ei fywyd yn esiampl, a'i gynghor yn ddiogel i'w ddilyn. Bu William Llwyd farw Ionawr 18fed, 1848, yn 74 mlwydd oed.

ELLIS SION, DOLYMOCH. Yr wyf yn ei gofio yntau yn dda. Yr oedd efe yn dal a lluniaidd; yn llawn dwy lath o daldra. Yr oedd yn enghraifft gywir o hen foneddwr Cymreig urddasol. Yr oedd ei wisg o'r top i'r gwaelod o wlanen gochddu'r ddafad. Nid oedd y "clos pen glin" ond prin gyrhaedd dros y cymal, ac yr oedd cwr yr ardas lydan oedd yn dal yr hosan yn y golwg. Yr oedd ganddo wynebpryd mynegiadol, a disgynai ei wallt arianaidd a modrwyog dros ei ysgwyddau llydain. Meddai ar dalent naturiol gref, ac yr oedd yn gyfoethog mewn dywediadau pert ac arabus, ac yn ddawnus mewn cynghor a gweddi. Nai iddo ef oedd y diweddar Mr. M. Jones (Meirig Prysor), Bryncelynog, yr hwn oedd yn ddiacon ffyddlawn yn eglwys Ebenezer, Trawsfynydd. Bu Ellis Sion farw Mai 30ain, 1855, yn 84 mlwydd oed.

HUW IFAN, DOLYMYNACH UWCHAF. Yr oedd