efe yn ddyn cryf a bywiog o gorff a meddwl. Gwisgai yn hynod syml a dirodres. Efe yn ddiau oedd "llefarydd y ty." Ystyriai Huw Ifan ei hun yn "Henadur Llywodraethol" (beth bynag a feddylid wrth hyny). Pa fodd bynag, yr oedd efe yn wr o ddylanwad mawr. Gan ei fod mewn amgylchiadau bydol lled dda, yr oedd ganddo allu i fod yn gryn gefn i'r achos yn Mhenystryd, a bu felly hefyd a gadawodd yn ei ewyllys £10 at gapel newydd Penystryd. Yr oedd ef yn Ysgrythyrwr cadarn, ac yn feddianol ar lawer o wybodaeth gyffredinol, ac yn llawn gweithgarwch a defnyddioldeb dros Dduw. Symudodd cyn diwedd ei oes i dy Capel Jerusalem, lle y bu farw mewn tangnefedd, Mai 4ydd, 1871, yn 95 mlwydd oed."
Enwid eraill gan Gwilym Eden, y rhai oeddynt yn olynwyr teilwng i'r rhai uchod; ond gan yr oesent hwy yn ddiweddarach na thymhor boreuol Mr. Williams, nid ydynt yn dyfod yn uniongyrchol o fewn cylch amcan y gwaith hwn. Bu "hen ddiaconiaid Penystryd" yn garedig i'n harwr, a rhoddasent iddo bob cynorthwy i fyned yn mlaen gyda'i grefydd, ac yr oedd ei barch yntau iddynt hwythau yn fawr. Wedi iddo ddechreu arferu ei ddawn yn gyhoeddus yn yr eglwys, deallwyd yn fuan fod ynddo allu mawr i wneuthur daioni. Ymledodd ei ddefnyddioldeb yn fuan i wahanol gyrion yn yr ardaloedd. Dilynai y cyfarfodydd gweddiau a'r cyfeillachau crefyddol a gynelid mewn