Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahanol aneddau o amgylch. Disgynai arno ef yn fynych y gwaith o lywyddu y cyfarfodydd hyny. Yn "Hanes Eglwysi Annibynol Cymru," Cyfrol I., tudalen 439; adroddir am dano yn cadw cyfeillach grefyddol mewn lle o'r enw Coed-y-tywyn—tyddyn bychan ar etifeddiaeth Cefnfaes, yn Maentwrog, yn y flwyddyn 1798, ac efe ond dwy ar bymtheg oed ar y pryd. Daeth hen wraig i'r gyfeillach, i'r hon y gofynodd ef, "Pa beth oedd ar ei meddwl hi." Cyffrodd a dywedodd, "Aros di y corgi bach, be waeth i ti beth sydd ar fy meddwl i. A wyddost ti beth sy' ar dy feddwl di dy hun? yr wyt ti yn rhy ifanc i holi hen wraig fel y fi;" ac ymadawodd yn dramgwyddedig iawn. Ond nid oedd ymddygiad felly yn cynhyrfu dim arno ef, ond yn hytrach gwasanaethai er ei ddangos ef i fwy o fantais yn y cymhwysder arbenig a feddai ar gyfer ei waith mawr a phwysig yn y dyfodol. Yn y cyfnod hwn, yr oedd yn hoffi myned i Lanuwchllyn i'r gwyliau arbenig a gynelid yn yr Hen Gapel, lle y gwasanaethai y Parchedig Ddoethawr George Lewis er's pedair blynedd cyn hyn; yr hwn hefyd am ei fod yn doeth iawn, a ddysgodd wybodaeth Ysgrythyrol mor helaeth a thrwyadl i'r bobl, fel y daethent i gael eu hystyried a'u cydnabod y bobl fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth yn yr holl wlad yn yr oes hono. Adroddodd Mr. Williams ei hun wrth ein hen athraw anwyl a galluog y Parch. E. T. Davies, Abergele, iddo unwaith wrth