Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychwelyd o Lanuwchllyn fod mewn enbydrwydd am ei einioes. Ceisiai unioni o Lanuwchllyn at Gwm-yr-allt Lwyd, ac yr oedd y nos wedi ei ddal. Gan fod y gwlaw wedi bod yn ymdywallt yn ystod y dydd, yr oedd Waen y griolen wedi ei gorchuddio gan ddwfr, a'r sarn lle y byddai yntau yn arfer croesi drosodd wedi ei gorlifo, fel nad oedd i'w gweled. Er hyny, yr oedd ef yn lled benderfynol yn ceisio croesi i'r ochr arall, ond bu agos, iddo a boddi y noswaith hono, a bu raid iddo gilio yn ei ol, a da oedd iddo allu gwneuthur hyny, cyn myned o hono gyda'r llifeiriant. Wedi cerdded llawer yn ol a blaen, daeth o'r diwedd at swp o frwyn a gasglwyd gan rywun at doi, ymwthiodd iddo, a llechodd ynddo hyd y boreu, a phan dorodd y wawr, ac i'r dyfroedd dreio, aeth yntau tuag adref yn llawen ei galon, am ddarfod i Dduw ci waredu, wedi bod o hono yn mheryglon llifddyfroedd. Wrth weled ei gynydd amlwg mewn grasusau, gwybodaeth, a defnyddioldeb yn yr eglwys, ac adgofio geiriau ci frawd Robert at y rhai y cyfeiriwyd eisoes, anogwyd ef yn daer gan y Parch. W. Jones a'r eglwys yn Mhenystryd, i ddechreu pregethu. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1800, pan nad oedd ef ond pedair ar bymtheg oed.

Pan y soniwyd gyntaf wrtho am iddo ymaflyd yn y gwaith santaidd o bregethu, meddianwyd ei enaid gan ofn a dychryn mawr. Yr oedd yn amheus o'i gyflwr, ac ofnai nad oedd efe ddim wedi ei alw