Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Dduw i'r gwaith goruchel o efengylu anchwiladwy olud Crist. Ond wedi gweddio llawer am arweiniad dwyfol yn y mater, a deall wrth ddarllen ei Feibl, fod cyfamod yr Arglwydd yn cyf— arwyddo y rhai a'i hofnant ef, tybiodd y gallai mai llais Duw ato ef oedd i'w glywed yn llais yr eglwys. Gan hyny, efe a benderfynodd ufuddhau a gwneuthur ei oreu i geisio pregethu Crist Iesu ei Arglwydd, gan wybod na byddai iddo gael ei feio am hyny, beth bynag a ddeuai o hono. Dechreuodd eraill ar yr un gwaith yn eglwys Penystryd, yr un adeg a'n gwrthddrych, ond profasent yn fuan mai nid i'r un o honynt hwy y dangoswyd y weledigaeth nefol, a chan nad oedd ganddynt ddatguddiad oddi uchod, rhoddasent y gwaith i fyny yn ebrwydd. Daeth y noswaith i'n gwron i draddodi ei bregeth gyntaf yn y gyfeillach grefyddol. Dewisodd y geiriau canlynol yn destyn y waith gyntaf iddo ymaflyd yn y gorchwyl pwysig, "Ephraim a ymgysylltodd àg eilunod, gâd iddo," Hosea vi. 17.

Nis gwyddom pa fodd y bu arno yn y traddodiad o'i bregeth gyntaf, nac ychwaith yn mha le y safai efe yn syniad beirniaid a cheidwaid yr athrawiaeth oeddynt yn gwrando arno. Beth bynag am hyny, aeth awr danllyd ei brawf heibio, "A'r hwyr a fu, a'r boreu a fu," heb i neb fe ddichon, o'r rhai a'i gwrandawsent ddychmygu y byddai y bachgen gwledig hwnw a safasai yn ei glocs ger eu bron y