Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

noswaith flaenorol, yn un o gedyrn yr areithfa yn Nghymru cyn pen nemawr o flynyddoedd. Bellach, yr ydym yn nesâu at gyfnod mwy amlwg a chyhoeddus yn mywyd ein gwrthddrych teilwng. Dywed Thomas Carlyle yn mywgraffiad John Sterling, eiriau i'r ystyr a ganlyn:—"Fod darluniad o fynediad y dyn lleiaf drwy y byd, ond ei bortreiadu yn ffyddlon a chywir, yn alluog i ddyddori y mwyaf." Os yw hanes cywir o fywyd dyn cyffredin, yn ol athrawiaeth y brenin Lenor o Chelsea, yn ddyddorol, yn sicr y mae hanes bywyd un o'r dynion mwyaf anghyffredin a fu erioed yn ein gwlad yn rhwym o feddu dyddordeb arbenig a chyffredinol, ond ei arlenu yn gywir, yr hyn a geisiwn wneuthur yn ngoleuni hyny o wybodaeth sydd genym am ein gwron enwog.

Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, yr oedd Huw Puw, Tyddyngwladus, yn myned heibio i lwyn o goed ar dir Cwmeisian Ganol; a chlywai rywun yn pregethu yn anarferol o hyawdl ac effeithiol yn y llwyn coed; ac erbyn nesau at y lle, deallodd mai gwrthddrych y Cofiant hwn oedd yno yn arferu ei ddawn, gan bregethu a'i holl egni. Bu y Parch. William Jones, Trawsfynydd, yn byw am ryw ysbaid o amser yn y Ty Ceryg, Ganllwyd, ac heb fod yn nepell o'r Ty Ceryg, ond yn uwch i fyny, gerllaw y Rhaiadr du, y saif Tyddynybwlch, yn mha le yr adeg hono y trigai gwr a gwraig o'r enw William ac Anne Jones, y rhai oeddent i'll dau