Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w le pan atebodd y cyfeillion a fynnai iddo dderbyn y radd o Mus. Doc. yn Rhydychen, ar yr amod ei fod yn talu swm bychan: "Vat te tevil I trow my money away for dat vich te blockhead vish? I no vant!" Ymffrostiai gerbron ei fyfyrwyr mai efe oedd "y Mus. Bac. cyntaf, a'r unig Mus. Doc. Cymreig," mor ddiweddar a 1897, nes tynnu'r ateb hwn oddiwrth "Ohebydd Neilltuol " "Y Cerddor": "Ni ddywedaf ddim yma parth ' Canmoled arall dydi' ond yn gyntaf, nid yw yn gywir, fel y gwŷr y cyfarwydd, ac fel y profwyd, ac fel y mae'n ddigon rhwydd profi eto; ac yn ail, petai yn gywir, pa beth a brofa? Dim ond ym Mhrydain (yn Ewrob) y cyfarfyddir â'r graddau hyn, ac nid yw y Saeson eu hunain yn tybio ronyn yn uwch am y dyn a'u medd, tra y mae y prif gerddorion Seisnig yn eu trin gyda'r un dirmyg ag y gwnaeth Handel."

Yr ydym ni yng Nghymru yn pasio drwy benumbra y teitlau ers blynyddoedd bellach, ac yn dechreu dod allan i eglurder parthed y B.A. a'r B.D. Yr ydym yn sicr wedi dysgu na enir bardd o'r B.A., na phregethwr o'r B.D., ond efallai y gellir gwneuthur gwell bardd a phregethwr ond cadw'r ddysg yn forwyn ac nid yn feistres. Rhag ein bod eto heb ddod i weld lle a gwerth teitl cerddorol nid difudd croniclo a ganlyn: "Yn y gystadleuaeth am gyfansoddi tonau a ddygir ymlaen dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol Manchester, ac ynglŷn â'r hwn y cynhygiwyd pedair gwobr o £3 yr un, derbyniwyd 850 o gyfansoddiadau. Ymhlith yr ymgeiswyr yr oedd un ar ddeg Mus. Doc., dau ar bymtheg Mus. Bac., ac un ar hugain F.R.C.O., ond nid oedd yr un ohonynt ymhlith y pedwar buddugol, y rhai oedd Mri. W. Walker, L.R.A.M., Gateshead; G. H. Loud, Toronto, Canada; W. Pearce, Sheffield; a Herbert M. Nelson, Canonbury, Llundain."

Yng nghyfnod Aberystwyth daeth Parry wyneb yn wyneb ag anhawster arall, nad iawn efallai ei alw yn wrthdarawiad, yn gymaint ag yn rhwystr neu atalfa i hunanfynegiant cerddorol cyfiawn. Megis y dywedir fod ysbryd milwrol ac uchelgais gwleidyddol yn ceisio ac yn gwneuthur cyfrwng peiriannol i'w galluogi i ymsylweddoli yn y byd—