fantais i ferched Aberystwyth i gael gŵr—gallant gael D. Jenkins, neu R. C. Jenkins, neu W. Hopkins yn awr gyda thocyn swllt! "
Yn ei adolygiadau o'i weithiau, yr oedd Emlyn, hyd y gwelaf i, yn wastad yn barchus, er yn feirniadol, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn i'r adolygiad ar "Ryfelgan y Myncod" (1875): "Efallai fod Mr. Parry yn teimlo fod mynd i'r 'borfa' am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglŷn â rhyw chef d'oeuvre ag sydd i'n synnu yn fuan. Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi ei wneuthur drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law er ys amryw flynyddoedd bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangan hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o gymeriad yr awdur."
Yr oedd Alaw Ddu yn fwy gwawdus. Am ei " Bedair Anthem Gynulleidfaol " dywed: " Os mai byrder a llithrigrwydd ddylai fod nodwedd yr Anthem Gynulleidfaol (?) y mae y darnau bychain yma yn ateb y diben i'r dim. Ond ofnwn fod ein cerddor yn teimlo mai hawddach yw bod yn fyr a syml, na bod yn urddasol a defosiynol . . ."
Y mae ei " Ryfelgan Gorawl " wedi ei " gweithio allan ar gynllun ac mewn dull sydd yn rhy hoff gan gerddorion Cymreig—digon o go a lle i floeddio."
Gwelwn o leiaf, fod ei gyfeillion wedi colli ofn y Mus. Bac. fel y gwnaethant y Mus. Doc. pan ddaeth. Prawf o'i symlrwydd oedd ei ymffrost hogynnaidd yn ei radd, a'i ymhyfrydiad hogennaidd yn yr ysnoden a berthyn iddo. Gosodai yr olaf ef yn amlwg agored i wawd y direidus. "Yr ydym oll yn gwybod bellach," meddai un gohebydd, "fod y Proffeswr Parry yn ' Mus. Bac., Cantab,' heb iddo wisgo y badge ar y llwyfan gyhoeddus. Yr ydym yn awgrymu hyn yn y modd mwyaf caredig, gan y gwyddom nad oedd y Cambridge gown ond testun gwên i lawer oedd yn bresennol."
Ac er fod ystyr a gwerth i'r gradd ei hun fel sêl ar ysgolheigdod, synnwn fod un o allu creol Dr. Parry, yn cysylltu cymaint o ogoniant ag ef, gan ymheulo ynddo hyd y diwedd. Yr oedd yr hen Handel yn sicr yn fwy agos