Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuenctid sydd dan ofal Mr. Parry yn derbyn lles cyflym drwy yr addysg gerddorol uwchraddol a gyfrennir iddynt. Diau fod y caneuon anodd a chaled a ganwyd gan lawer o'r myfyrwyr yn foddion addysg dda iddynt, ond yr oeddynt mewn rhai amgylchiadau y tro hwn ymhell uwchlaw gallu'r datganwyr."

"Credwn yn wylaidd y byddai'n weithred o modesty ar ran y Prof. Parry i beidio introducio cymaint o'i waith ei hun yn y cyngherddau." Yn Chwefrol, 1876, fodd bynnag, rhoddwyd perfformiad o "Llewelyn" (Pencerdd Gwalia) dan arweiniad Parry, ynghyd â " Chytgan y Bradwyr " (Parry), ac meddai'r beimiad: " Y mae mwy o amrywiaeth awdurol yn ddiweddar, ond eto y mae lle. Beth am Lloyd, Stephen, ac O. Alaw? Y maent hwy wedi cyfansoddi ambell i ddarn y gallai hyd yn oed R.A.M. neu U.C.W. edrych drosto i bwrpas."

Dygai ei fyfïaeth ef i wrthdarawiad â hyd yn oed ei gyfeillion goreu. Eto myfïaeth anymwybodol hogyn ydoedd: ni fwriadai sathru ar hawliau cydnabyddedig eraill ond ymddygai fel pe yn hollol anymwybodol ohonynt. "Credai ef yn hollol syml," meddai Mr. Jenkins, " fod holl gerddorion ac arweinyddion Cymru wedi eu creu i wasanaethu arno ef, a disgwyliai iddynt wneuthur hynny, ac fe wnaeth llawer ohonynt, a hynny gyda phleser." ond gwrthodai eraill wneuthur. Gwelsom uchod fel y darfu i'w gyd-gerddorion Cymreig brotestio ar ei ran yn erbyn ymddygiad awdurdodau Eisteddfod Bangor tuag ato. Y mae braidd yn anghredadwy ei bod yn bosibl iddo—yn y dyfyniad dilynol—pan yn sôn am y bywyd cerddorol oedd yn y wlad, gyfeirio braidd yn hollol at ei weithiau ei hun, a'r datganiadau ohonynt, gan eu cwbl anwybyddu hwy, neu ynteu eu cynnwys mewn, " etc., etc." er fod gweithiau pwysig o'r eiddynt wedi newydd ymddangos. Yr oedd hyn yn ormod i gig a gwaed, ac nid syn iddynt daro'n ol; yn wir rhoddai arfogaeth Parry ddigon o gyfleusterau iddynt wneuthur hynny. Yr oedd ei ramadeg yn aml yn dyllog, ei gerddoriaeth yn arwynebol, a'i ymffrost yn ei radd a'i ysnoden yn amlwg.

"Tickets may be had with the students " meddai rhaglen y cyngerdd. "Helo" meddai'r wags beimiadol, "dyma