difrifol yn erbyn beirniadu chwarae yr harmonium, am fod un o'i bupils ef yn cystadlu (gwobr dwy bunt), ac yn beirniadu yr anthem ac yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill (gwobr deg punt)." Tebyg fod gan y gohebydd ryw brawf fod Parry "yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill "; o leiaf buasai'n ddoethach i'r Athro rybuddio ei ddisgyblion y byddai'n well iddynt hwy beidio cystadlu dan ei feirniadaeth ef. Ond yr oedd ef yn llawn o anghysonderau o'r fath hyn—rhai ag y byddai un mwy gofalus am ei reputation ei hun yn gallu eu hosgoi yn rhwydd. Tua thair blynedd wedi'r uchod, cawn ef yn ysgrifennu mewn perthynas â'r bywyd cerddorol oedd drwy'r wlad: " Y mae cymdeithasau corawl yn rhoddi mantais i'n cenedl glywed gweithiau fel ' Ioan Fedyddiwr,' 'Joseph' ' Arch y Cyfamod,' ' Blodwen,' ' Jerusalem,' etc., etc. Cawn hefyd yr un gweithgarwch yn ein cyfansoddwyr yn ymddangosiad 'Jeremiah,' 'Blodwen' hefyd gorffeniad o'r 'Emmanuel' etc., etc." Yna cyfeiria at y lleiswyr da, "megis Lucas Williams, a rhai oddiyma na byddai'n ddoeth i mi eu henwi." "Na byddai'n ddoeth i mi eu henwi," a hynny pan yw wedi newydd wneuthur cyfeiriad go lawn at ei weithiau ei hun, a gwaith ei ddisgybl,—mewn cwmni da—gan farnu "etc., etc." yn ddigon da i'r lleill i gyd!
Lle yr oedd y rhugliadau hyn yn cael eu hachlysuro gan onglau ei ddiffygion ef ei hun, yr oeddynt yn ddiau er lles iddo, ac ni ellir cwyno; ond nid felly y byddai bob amser. Yr oedd ef yn ei elfen yn fwy yn y cyngerdd. Bu cyngherddau'r Coleg yn dra llwyddiannus a phoblogaidd. Mynychid hwy gan gefnogwyr y Coleg o bell ac agos, megis Arglwydd Aberdâr, yr Archddiacon Griffiths, Mr. Hugh Owen, Capt. Verney, y "Gohebydd," "ynghyd â phrif foneddigion a boneddigesau y dref a'r ardal." Eto, deuent i wrthdarawiad â dau deimlad, sef yr un cenedlaethol a'r un gwrthfyfïol: cwynid mai darnau dieithr a thramor yn unig a genid, a rhai y Proffeswr ei hunan—ond yr anwybyddid Cymry eraill. "Cafwyd cyngerdd lled dda ar y cyfan, ac y mae yn amlwg fod yr