Dywed Dr. Horton yn ei Hunangofiant ei fod wedi cael llawer bendith arbennig mewn bywyd, ond mor wir a bod y fendith yn dod, fod yna groes heibio'r gongl i gadw'r gorfoledd rhag troi'n falchter a hunan-foddhad. Ni wyddom beth fu effeithiau siomedigaethau bywyd ar Dr. Parry—y cerddorion a ddwed a ddaeth i'w gân Ryw newydd lais, fel nawfed ton y môr, fel yr ai'r blynyddoedd heibio. Gwyddom mai cecraeth ac erlid gelynion barodd i Handel adael yr Opera am yr Oratorio, ac na fuasai y "Messiah " wedi ei rhoddi i'n daear, nid yn unig heb Groes y Ceidwad, ond hefyd heb groesau Handel. Gwelsom y fath dderbyniad godidog a gafodd Parry gan ei gydgenedl—gadawer inni'n awr alw sylw at yr ochr arall i'r " darian." Daeth i gyffyrddiad cynnar ag ochr arw, gwerylgar, genfigenllyd yr Eisteddfod. Er iddo gael ei ddewis yn feirniad yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ei flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth—yn wir cyn ymsefydlu ohono yno, anwybuwyd ef fel beirniad ar y cyfansoddiadau cerddorol. Anodd credu mai cenfigen neu hunan-bwysigrwydd yr hen ddwylo oedd y tu cefn i hyn, ond y mae'n amlwg eu bod yn ddiffygiol mewn cwrteisrwydd, a sôn dim am degwch. Hyd yn oed os y swyddogion a fu'n esgeulus, dylasai'r beirniaid eraill brotestio, wedi deall y sefyllfa. Yn lle hyn, bu'n rhaid i gyfeillion Parry—ei gydgerddorion ieuengach—brotestio. Dengys hyn ei fod yn teimlo'r peth a'i fod wedi ei ddatguddio iddynt hwy. Cynhaliwyd Eisteddfod enwog Pwllheli y flwyddyn ddilynol, ac ymddengys iddo ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—gymryd meddiant go lwyr o'r esgynlawr hwnnw mewn eisteddfod a chyngerdd, nes peri i rywrai ei dwbio, os iawn y cofiaf, yn "Eisteddfod y Students"-yr oedd ef ei hun yn un o'r beirniaid, ef a'i ddisgyblion ymysg y datganwyr, disgyblion eraill yn ennill, a rhai'n ennill yn yr eisteddfod ac yn datganu yn y cyngerdd! Yn yr "Herald Cymraeg " ymddangosodd rhestr o " Anghysonderau Eisteddfod Pwllheli," a chawn yn eu plith a ganlyn: " Pencerdd America yn codi ar ei draed i wrthdystio mewn modd
Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/99
Gwedd