Yn 1879, wedi prawf o bum mlynedd, penderfynodd Cyngor Coleg Aberystwyth ddiddymu'r Gadair Gerddorol, yr hyn a barodd lawer o synnu, a phrotestio, a dyfalu, ac nid ymddengys i neb o'r tu allan fynd y tu hwnt i ddyfalu y pryd hwnnw, os yn wir y medrwn ni heddyw wneuthur mwy na hynny.
Dyma lythyr Mr. D. Jenkins i'r "Gerddorfa" ar y pryd:
"Prifysgol Aberystwyth a'r Gangen Gerddorol.
"Yr hyn sydd yn ein synnu yn fawr ynglŷn â bwriad y Cyngor yw, eu bod mor ddifater o ddiddordeb Cymru mewn cerddoriaeth, oherwydd y mae cannoedd o bunnoedd wedi eu casglu at sefydlu dwy ysgoloriaeth mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol. . . . Fe ddywedir mai bwriad y Cyngor yw, cyfyngu yr addysg gerddorol o hyn allan i'r classical students. Os yw hyn yn wir, nid yw yn amgen na dull arall o roddi notice to quit i'r Athro cerddorol, oherwydd gwybyddus yw nad oes braidd un classical student yn ymofyn gwers gerddorol. Dylai y Cyngor wybod hyn. A ydynt yn tybied y llwyddant i gael gan Athro cerddorol i aros os gwnant i ffwrdd â'r efrydwyr cerddorol? Sibrydir mai un rheswm gan y Cyngor yw fod yr efrydwyr cerddorol yn tynnu safon y Coleg i lawr. Carwn gael gwybod ymha fodd ac ymha ddull. A ydyw y wybodaeth gerddorol a gyfrennir yn y Coleg wedi bod yn aflwyddiant, neu a yw rhif yr efrydwyr cerddorol mor fychan fel nad ydyw yn werth trafferthu yn eu cylch? Pa reswm all y Cyngor ei roddi dros ddiddymu y Gadair Gerddorol i'n cyfeillion hynny sydd wedi casglu bron digon at gynnal dwy ysgoloriaeth? Gofynnir yn aml paham na fyddai rhywrai profedig ynglŷn â cherddoriaeth ar y Cyngor—rhai fyddai'n gwybod teimlad y wlad ac yn byw ynddi? Gwir fod yna gerddorion Cymreig yn Llundain ar y Cyngor, ond y mae'n naturiol i'w cydymdeimlad hwy redeg i gyfeiriad arall . . .
"Nid oes dim yn rhoddi mwy o bleser i mi na fy mod yn alluog i siarad yn ffafriol am yr addysg gyfrennir yn yr adran gerddorol. Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro cerddorol, ond gallaf