Onibai fod yn rhaid i ni, yn unol â'i dystiolaeth ef ei hun, ac eiddo'i gyfeillion agosaf, edrych ar ei brif weithiau fel asgwrn cefn ei hanes, am eu bod yn arglwyddiaethu ei fywyd, naturiol fyddai cymryd blynyddoedd Abertawe fel yn ffurfio cyfnod newydd yn ei hanes—nid am iddo symud i le newydd, ond am fod yna ffurfiau newydd o weithgarwch, neu ynteu bwyslais newydd ar rai oedd yn bod yn flaenorol, yn dal perthynas â gwasanaeth cerddorol i'w genedl, i'w gweld yn fwy amlwg. Pe dychmygem am y foment fod nant y mynydd yn greadur ymwybodol, a'i bod wedi gadael cyfnod difyr dawns a chân y llethrau a'u "creigiau llathrwyn" yn ymlonyddu i fywyd llai rhamantus, ond mwy gwasanaethgar, y dyffryndir—yn gweld llecyn yn y fan hon ag eisiau ei wyrddlasu, a rhod melin yn y fan draw i'w throi, ac yn cymryd ei harwain i'r sianel ati—byddai yn ddarlun i ni o hanes Parry yn y cyfnod hwn. Diau y byddai geiriau Keats mewn perthynas â rhoddi ffarwel i bleserau mwy sensuous bore oes yn mynegi ei deimlad yntau yn awr:
And can I ever bid these joys farewell?
Yes, I must pass them for a nobler lie,
Where I may find the agonies, the strife
Of human hearts.
Yn wir, nid oedd yn bosibl i neb basio drwy flwyddyn o siom megis ag a dreuliodd ef yn Aberystwyth—ag i ni gofio mai nid blwyddyn o funudau ar y wyneb ydoedd, ond â phob munud yn flwyddyn tuag i lawr—heb orfod ceisio y bywyd uwch sydd y tu draw i "ingoedd" ac "ymryson" y galon ddynol—neu anobeithio. Er fod galluoedd ymadferol ei natur ef yn fawr, nid oeddynt yn ddigon mawr—a da hynny—i'w alluogi i basio drwy y cyfnod hwn yn ddigraith.
Nid oes gennym le i gasglu ei fod o ddifrif gydag addysg yr efrydwyr yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth—yr oedd yno ormod o chware (fun). Cychwynnodd ei ysgol ei hun yno wedyn gyda brys, os nad rhuthr, ac heb hamdden i feddwl, fel y gellir edrych ar y flwyddyn a dreuliodd yn yr Academy of Music fel tymor prentisiaeth. Yn awr, yn Abertawe, y cawn ddelfryd uchel a chwmpasog o goleg ac